| Yn ystod yr haf eleni, dechreuodd y Rhaglen Bwyd a Hwyl ar ei hail ddegawd gan ddathlu’r garreg filltir bwysig o gynnig miliwn o leoedd, yn darparu brecwast a chinio maethlon ynghyd â rhaglen weithgareddau ddiddorol i ddysgwyr yn ystod gwyliau’r haf. |
| Mae’r hyn a gychwynnodd fel prosiect peilot o dan arweiniad Cyngor Caerdydd wedi tyfu i fod yn Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf genedlaethol, a ddarperir mewn ysgolion ledled Cymru ac sy’n cael ei chydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Yr haf hwn, roedd y cynlluniau yn mynd rhagddynt unwaith eto ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol, gyda 384 o ysgolion yn cymryd rhan a dros 16,000 o leoedd ar gael bob dydd. Gyda chefnogaeth ariannol o £5.85 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae’r rhaglen yn hyrwyddo byw’n iach, yn gwella lles dysgwyr, yn cryfhau’r berthynas rhwng teuluoedd, ysgolion a chymunedau, ac yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at brofiadau cadarnhaol drwy gydol gwyliau’r haf. Cynhelir gweithgareddau a darpariaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae llwyddiant parhaus y rhaglen yn dystiolaeth gref o ymrwymiad di-flino timau awdurdodau lleol, staff ysgolion a sefydliadau partner sy’n cydweithio bob haf i ddarparu profiadau o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ledled Cymru. I ddathlu’r garreg filltir hon, bu Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg yn ymweld ag Ysgol Gynradd Blenheim Road. Roedd thema eleni, sef Chwedlau, yn gwahodd dysgwyr i gychwyn ar daith i chwilio am darian, gan ysbrydoli haf o greadigrwydd, darganfyddiadau ac antur. Bu’r dysgwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau cyfoethogi profiadau a oedd yn adlewyrchu arwyr lleol a chenedlaethol, rhai chwedlonol a rhai hanesyddol, ddoe a heddiw
|
Rhaglen Bwyd a Hwyl dros Wyliau’r Haf yn Cyrraedd Carreg Filltir o Gynnig Miliwn o lefydd