Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

£3m ychwanegol i recriwtio mwy o staff ambiwlans brys i wella amseroedd ymateb

BYDD £3 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru i recriwtio mwy o staff ambiwlans brys i wella amseroedd ymateb ar gyfer y rhai mwyaf sâl neu sydd wedi’u hanafu fwyaf difrifol.

Mae y cyllid ychwanegol hwn yn galluogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i recriwtio tua 100 o staff rheng flaen ychwanegol ac i gyflwyno gwasanaeth newydd ‘Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru’ (CHARU).

Bydd y gwasanaeth CHARU yn ceisio gwella canlyniadau i bobl sydd wedi dioddef ataliad y galon.

Bydd y staff ychwanegol yn helpu i reoli’r galw cynyddol am ofal mewn argyfwng ac yn lleihau’n rhannol rai o’r heriau cymhleth yn y system ehangach sy’n parhau i roi pwysau dwys ar staff a gwasanaethau gofal mewn argyfwng.

Mae’r pwysau hyn yn cael eu dwysau gan amrywiaeth o ffactorau lleol a chenedlaethol gan gynnwys heriau gyda llif cleifion drwy’r system ysbytai, yn ogystal â chyfyngiadau staffio.

Sefydlwyd y rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng i wella mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng ac rydym eisoes wedi sicrhau bod £25 miliwn o gyllid cylchol ar gael i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau’r rhaglen.

Mae hyn yn cyd-fynd â’r £145 miliwn a ddarparwyd i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, fel rhan o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu pobl i osgoi mynd i’r ysbyty neu i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod.

Bydd y staff ambiwlans brys yn cael eu defnyddio mewn ffordd wedi’i thargedu ledled Cymru yn yr ardaloedd sydd o dan y pwysau mwyaf a lle mae’r angen clinigol mwyaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Rydym yn darparu’r cyllid ychwanegol hwn gan ein bod yn cydnabod y pwysau aruthrol sydd ar y gwasanaeth ambiwlans i ymateb i’r bobl fwyaf sâl ac sydd wedi’u hanafu fwyaf difrifol.

Drwy gynyddu capasiti staff yn y tymor byr gallwn wella amseroedd ymateb a sicrhau gofal gwell i bobl sydd wedi bod yn aros yn rhy hir am ambiwlans.

Mae ein rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng yn cefnogi cynnydd mewn staffio mewn meysydd hanfodol yn y tymor canolig ac yn helpu staff i ddarparu’r gofal cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf lle bynnag y bo’n bosibl.”

Meddai Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

“Mae pwysau eithafol yn parhau ar draws y system gofal brys a gofal mewn argyfwng, ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i atebion i’r problemau cymhleth a hirsefydlog.

Yn y cyfamser, rydym yn cynyddu ein gweithlu i roi ein hunain yn y sefyllfa orau bosibl i gwrdd â’r galw cynyddol ac rydym eisoes wedi recriwtio mwy na 260 o swyddi rheng flaen yn y ddwy flynedd diwethaf.

Bydd 100 o swyddi rheng flaen ychwanegol yn cryfhau ein capasiti hyd yn oed ymhellach, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu hyn a’r fenter CHARU newydd arloesol, a fydd, gobeithio, yn gwella’r canlyniadau i’n cleifion mwyaf difrifol sâl.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page