Angen i’r Cyngor ddod o hyd i o leiaf £6m yng nghyllideb 2023/24, ond gallai’r ffigur fod dros £20m

MAE costau cynyddol chwyddiant, prisiau bwyd ac ynni ynghyd â mwy o alwadau byd-eang am nwyddau a gwasanaethau, yn golygu bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn wynebu diffyg sylweddol yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Yn union fel mae’r argyfwng costau byw yn rhoi straen ariannol enfawr ar aelwydydd a busnesau ar draws y sir a thu hwnt, mae’r Cyngor a Llywodraethau lleol eraill yng Nghymru hefyd yn wynebu pwysau tebyg.

Mae hyn, ynghyd â’r costau etifeddol yn sgil pandemig COVID-19 a chynigion cyflog llawer uwch na’r hyn a ragwelwyd pan osodwyd y gyllideb eleni, yn ychwanegu baich hyd yn oed yn fwy ar gyllideb y cyngor.

Mae adroddiad sy’n mynd gerbron Cabinet y Cyngor ddydd Llun, 3 Hydref, yn rhybuddio bod yr arian sydd wedi’i ddyrannu hyd yma i’r cyngor gan Lywodraethau’r DU a Chymru llawer yn is na’r hyn sydd ei angen ar y Cyngor.

Mae’r Cyngor yn rhybuddio bod rhai penderfyniadau anodd iawn ar y gorwel ar sail y rhagolygon presennol, gyda’r posibilrwydd o leihau rhai gwasanaethau a bydd yn gwahodd trigolion roi eu barn ar sut y dylid mantoli’r gyllideb.

Bydd Cynghorwyr a Swyddogion yn cydweithio dros y misoedd nesaf i ddatblygu cynigion i sicrhau’r arbedion o £6.1 miliwn y bydd eu hangen ar gyfer y sefyllfa orau. Mae hyn dros 50% yn uwch na’r hyn a ddisgwyliwyd yn wreiddiol.

Byddant hefyd yn ystyried opsiynau i nodi meysydd ychwanegol ar gyfer arbedion pellach, pe bai angen y rhain. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai’r ffigur fod dros £20m.

Yn siarad cyn cyfarfod y Cabinet ddydd Llun, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Alun Lenny:

“Mae’n gyfnod anodd i bawb ac mae’n hanfodol ein bod ni’n cefnogi ein gilydd drwy’r cyfnod hwn o galedi economaidd. Fel aelodau’r Cabinet, byddwn yn agored gyda’r cyhoedd o’r cychwyn cyntaf  wrth i ni wynebu’r penderfyniadau anodd iawn, ond angenrheidiol hyn, i gyflawni, ar y gorau, arbedion o £6.1 miliwn yn ein cyllideb.

“Bydd gan y rhan fwyaf o bobl farn ynghylch pa wasanaethau maen nhw’n meddwl y dylent eu diogelu a pha wasanaethau y gallem ystyried eu lleihau, wrth i ni ymdrechu i wneud yr arbedion angenrheidiol yng nghyllideb y cyngor. Rydym am gael y sgwrs honno â phobl Sir Gaerfyrddin pan fydd y Cabinet yn trafod yr argymhellion i nodi meysydd y gellid arbed arian.

“Nid ar chwarae bach y byddwn yn dod i benderfyniad. Cymeradwywyd cynllun ariannol tymor canolig bresennol yr awdurdod gan y Cyngor llawn yn gynharach eleni ac roedd yn seiliedig ar amcangyfrifon o ymrwymiadau a oedd yn hysbys bryd hynny. Roedd hefyd yn seiliedig ar ragamcanion a setliad ariannol Llywodraeth Cymru.

“Roedd y cyngor wedi rhagweld y byddai chwyddiant yn 4% – rhagfynegiad darbodus iawn. Ni allai unrhyw un fod wedi rhagweld cyfradd chwyddiant o 10%, gyda’r effaith anochel ar setliadau cyflog, costiai ynni a phwysau costau byw parhaus.

“Yn y cyd-destun hwn, ac oni bai bod cynlluniau gwariant cyhoeddus yn cael eu diweddaru’n radical gan Lywodraethau’r DU a Chymru, rhaid i’r cyngor ddechrau ar y broses o nodi’r arbedion gofynnol er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni’r pwysau ariannol sydd ar y gorwel.”

Yn dilyn cyfarfod y Cabinet, bydd y cyngor yn ymgysylltu ac ymgynghori â’i drigolion.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page