Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Annog Llafur i gefnogi cynlluniau’r Blaid i roi codiad cyflog “go iawn” i weithwyr y iechyd a gofal

Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwelliant i’r gyllideb ddrafft er mwyn rhoi codiad cyflog go iawn o 8% i staff iechyd – y codiad cyflog cyntaf mewn termau real ers dros ddegawd.

 

Bydd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn cael ei thrafod heddiw (dydd Mawrth 7 Chwefror 2023).

 

Mae gwelliant Plaid Cymru i’r gyllideb yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi refeniw ychwanegol drwy amrywio cyfradd y dreth i roi cynnig cyflog tecach i weithwyr iechyd a gofal fel rhan o fuddsoddiad tymor hwy yn y gwasanaeth.

 

Ar ôl gwadu bod unrhyw arian, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener “gynnig cyflog diwygiedig” o 3% yn ychwanegol i staff y GIG, gyda 1.5% ohono wedi’i gyfuno (consolidated).

 

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod y cynnydd o 1.5% yn “blastr dros-dro” ac y byddai’n gwneud “dim” i fynd i’r afael â gwasanaeth iechyd gwladol sydd “yn brin o staff” a system ofal sydd “yn cael ei thanariannu”.

 

Dywedodd Mr Price y byddai cynllun Plaid Cymru yn cynhyrchu £317 miliwn ychwanegol er mwyn cynnig codiad cyflog o 8% i weithwyr y gwasnaeth iechyd – y codiad cyflog cyntaf mewn termau real ers dros ddegawd – i helpu i fynd i’r afael â phrinder staff – a rhoi £12 yr awr i weithwyr gofal fel lleiafswm.

 

Fe wnaeth Arweinydd Plaid Cymru hefyd annog y llywodraeth Lafur i gefnogi galwadau’r blaid i Gymru osod ei bandiau treth ei hun i greu “system drethiant decach”.

 

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

 

“Gwasanaethau cyhoeddus – torri. Amseroedd aros – i fyny. Mae teuluoedd yn cael trafferth rhoi bwyd ar y bwrdd tra bod busnesau lleol yn mynd i’r wal.

 

“Dyma ganlyniad uniongyrchol tair blynedd ar ddeg o doriadau’r Torïaid a phum mlynedd ar hugain o fethiant Llafur yn darparu atebion real a radical i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau.

 

“Mae Plaid Cymru wedi dangos ffordd ymlaen. Gan ddefnyddio’r pwerau trethu sydd gennym yma yng Nghymru, gallem gynhyrchu £317 miliwn yn ychwanegol i gynnig codiad cyflog o 8% i weithwyr y GIG – y codiad cyflog cyntaf mewn termau real ers dros ddegawd – er mwyn helpu i fynd i’r afael â phrinder staff a rhoi o leiaf £12 i weithwyr gofal.

 

“Nid yw’r cynnig o 1.5% sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd gan Lafur yn ddim byd ond plastr dros dro. Ni fydd yn gwneud dim i fynd i’r afael â gwasanaeth iechyd sydd heb ddigon o staff, system ofal nad yw’n cael ei hariannu’n ddigonol a gweithlu yn y ddau sy’n dioddef oriau hir a diffyg parch. Dim ond Plaid Cymru sydd wedi cyflwyno cynllun credadwy i drawsnewid pethau i wella’r argyfwng yn y gwasanaeth iechyd a gofal.

 

“Lle mae Plaid Cymru yn arwain, mae Llafur yn dilyn – yn y diwedd. Anogwn nhw i’n dilyn yn awr, yn ddi-oed a chefnogi ein gwelliant i’r gyllideb. Ac, os ydyn nhw wir yn credu mewn system drethiant deg, byddan nhw’n ein cefnogi ni ddydd Mercher i fynnu’r pwerau i osod ein bandiau treth ein hunain yn union fel yr Alban, yn hytrach na chael ein rheoli gan San Steffan – eto.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page