Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Arwerthiant cacennau yn codi £1,000 i wasanaeth canser y pen a’r gwddf yn Sir Gaerfyrddin

Mae Nicola Martin-Davies a’i chydweithwyr yn Ysgol Penygroes wedi codi £1,000 ar gyfer Gwasanaeth Canser y Pen a’r Gwddf yn Ysbyty Glangwili.

 

Yn ddiweddar, derbyniodd Nicola, cynorthwyydd addysgu, ofal eithriadol gan dîm Gwasanaeth Canser y Pen a’r Gwddf.

 

Yn ystod tymor yr haf ysgol 2022, penderfynodd staff Ysgol Penygroes godi arian ar gyfer y gwasanaeth drwy bobi a gwerthu cacennau.

 

Dywedodd Nicola: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi codi £1,000, er nad oeddwn yn gallu bwyta cacen ar y pryd.”

 

Dywedodd Anwen Butten, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Pen a’r Gwddf: “Hoffai Tîm Canser y Pen a’r Gwddf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddiolch o galon i Nicola a’i chydweithwyr.

 

“Bydd y rhoddion hael hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer i gleifion canser y pen a’r gwddf a’u teuluoedd cyn ac ar ol triniaeth, yn ystod eu hadferiad ac adsefydlu hirdymor, a darparu cymorth i’n cleifion lliniarol.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

Yn y llun (o’r chwith i’r dde): Anwen Butten, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Pen a’r Gwddf; Claire Rumble, Swyddog Codi Arian; Mr Vinod Prabhu, Ymgynghorydd ENT/Llawfeddyg Pen a Gwddf; Nicola Martin-Davies; Hayley Owen, Cynorthwyydd Cefnogi Gwasanaeth Pen a Gwddf Macmillan ac Alis Evans, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Pen a’r Gwddf.

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page