Codi £16,700 i elusen y GIG er cof am David Gwynfor Lewis

Mae teulu David Gwynfor Lewis, a fu farw y llynedd, a’i gymuned leol, wedi codi’r swm anrhydeddus o £16,700 i’w helusen GIG leol er cof amdano.

 

Yn adnabyddus fel ‘Dai Coed Cyw’, derbyniodd David, o Lannon, ofal rhagorol yn Ysbyty Tywysog Philip a Hosbis Tŷ Bryngwyn. Mae ei deulu a’i ffrindiau wedi gweithio’n ddiflino i godi arian i Elusennau Iechyd Hywel Dda, yr elusen GIG leol, i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau cleifion eraill.

 

Mae’r cyfanswm yn cynnwys rhoddion yn lle blodau er cof am David, ac arian a godwyd gan nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau a drefnwyd gan y gymuned leol, gan gynnwys:

 

Gwerthu cywion wyau Pasg gan Lewis Thomas
Her rhedeg 2022 gan Adrian a Diane Thomas
Her rhedeg Llwybr Arfordir Cymru gan Paula a Steve Eldridge
Diolchgarwch am y cynhaeaf a thaith tractorau gan CFfI Llannon
Twmpath dawns a drefnwyd gan Alun a Mandy Owens
Rhodd gan Bwyllgor Sioe Pontarddulais
Rhodd gan Y Lleng Brydeinig Frenhinol Bynea.

O’r £16,700 a godwyd, bydd £8,800 yn mynd i Hosbis Tŷ Bryngwyn a £7,900 i’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Sharon Groom, Uwch Brif Nyrs, Uned Ddydd Cemotherapi, Ysbyty Tywysog Philip;
Katie Phillips, Ffisiotherapydd; Emma Mulgrew, Nyrs Glinigol Arbenigol; Sue Gilly, Nyrs Staff, Tŷ Bryngwyn; Owain Thomas, Ymgynghorydd Gofal Lliniarol; Alun Owens; Mark Thomas; Annmarie Thomas; Paula Eldridge;
Tina Butler, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd; Steve Eldridge.

Dywedodd Annmarie Thomas, chwaer David: “Hoffem ddiolch i deulu, ffrindiau a chymdogion am eu holl gefnogaeth i godi swm mor anhygoel er cof am David. Byddai David mor falch y gellir buddsoddi’r swm hwn o arian i gefnogi gofal a phrofiad cleifion. mewn dau wasanaeth a roddodd ofal eithriadol iddo.”

 

Dywedodd Emma Mulgrew, Nyrs Glinigol Arbenigol yn Ysbyty Tywysog Philip: “Rwyf i a’r tîm Gofal Lliniarol Arbenigol cyfan mor ddiolchgar am yr amser a’r ymroddiad y mae ffrindiau a theulu wedi’i fuddsoddi i godi arian er cof am David. Roedd yn anrhydedd cyfarfod a chefnogi David a’i deulu ar adeg mor anodd. Roedd David yn amlwg yn annwyl iawn ac yn uchel ei barch gan gynifer.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen GIG swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

 

Am fwy o wybodaeth am Elusennau Iechyd Hywel Dda, trowch at: http://www.hywelddahealthcharities.org.uk/

 

Unlike  other news outlets, Carmarthenshire News Online does not receive massive advertising revenue or large grants. We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: