Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Cofio dioddefwyr ar ddiwrnod Cofio’r Holocost

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn cofio bywydau chwe miliwn o Iddewon a fu farw yn yr Holocost, ynghyd â’r miliynau o bobl eraill a laddwyd mewn hil-laddiadau dilynol yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Am 4pm ar 27 Ionawr, cynhaliodd Adran Gofal Ysbrydol Hywel Dda (Caplaniaeth) seremoni yn Hafan Derwen lle plannwyd coeden afalau sur eginblanhigyn i gofio am bawb a laddwyd.

Yn ystod y seremoni, siaradodd Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda am thema eleni o ‘bobl gyffredin’, sy’n ein hysgogi ac yn ein gwahodd i feddwl pa mor hawdd yw hi i ‘bobl gyffredin’ fod yn gyflawnwyr.

“Dylai pobl gyffredin fyfyrio ar sut i herio rhagfarn, gwahaniaethu a chasineb mewn cymdeithas/gweithle. Fel ‘pobl gyffredin’ mae angen i ni ddysgu o wersi’r gorffennol, a chynnig gwrthwynebiad a dyfalbarhau wrth greu dyfodol mwy diogel a gwell.”

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost hefyd yn cofio’r dioddefwyr eraill a fu farw. Lladdwyd pobl hoyw, offeiriaid, Sipsiwn, pobl ag anableddau meddyliol neu gorfforol, comiwnyddion, undebwyr llafur, Tystion Jehofa, anarchwyr, Pwyliaid a phobloedd Slafaidd eraill.

Darllenodd cynrychiolydd o’r gymuned Sipsiwn, Leanne Morgan, gerdd hyfryd ‘Chickens in a Pen’ gan Raine Geoghegan yn y seremoni i gofio’r holl Sipsiwn hynny a gollodd eu bywydau.


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page