Cynhaliwyd taith tractorau er cof am dad annwyl iawn

Trefnodd teulu o Dalgarreg taith tractorau er cof, gan godi swm anhygoel o £5,927.50 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili.

Trefnodd Ann, ei merch Heledd a’i mab Alwyn daith tractorau o Neuadd Talgarreg ar 12 Gorffennaf 2026 er cof am Adrian Thomas, gŵr annwyl iawn i Ann a thad i Heledd ac Alwyn.

Dywedodd Heledd: “Collon ni Dad ddwy flynedd yn ôl oherwydd canser yr ysgyfaint. Roedd yn cael cemotherapi yn Ysbyty Glangwili ac roedd y staff yn wych gydag e.”

“Roedd gennym 105 o dractorau ar y diwrnod a chodwyd swm anhygoel o arian. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i’r daith dractorau er cof am fy nhad, a hoffem ddiolch i’r holl staff yn yr Uned Ddydd Cemotherapi.”

Dywedodd Jessica Michael, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran y staff a’r cleifion yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i chi am eich ymdrechion codi arian, a arweiniodd at rodd hael iawn o £5,927.50.”

Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Gallwch fod yn sicr y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio ar gyfer y gwelliant hwn.

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Waw! Am swm anhygoel o arian a godwyd. Diolch yn fawr iawn am godi arian er cof am Adrian.”

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.

 

You cannot copy any content of this page