Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Cynhyrchwyr bwyd Ceredigion ar y brig yng Ngwobrau ‘Great Taste’ 2023

Mae llawer o gynhyrchwyr bwyd Ceredigion wedi dod i’r brig gyda’u gradd sêr 1, 2 a 3 yng Ngwobrau ‘Great Taste’ 2023.

 

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau ‘Great Taste’ ddydd Llun, 31 Gorffennaf, gyda mwy na 14,000 o gynhyrchion o 109 o wledydd yn cael eu hasesu.

 

Fe wnaeth cynhyrchwyr bwyd Ceredigion brofi eu bwyd a daeth pedwar ar hugain o fusnesau i’r brig – gan dderbyn naill ai 1, 2 neu 3 seren am eu cynnyrch.

 

Mae pymtheg o’r cynhyrchwyr bwyd hynny wedi derbyn cymorth technegol gan Ganolfan Bwyd Cymru, canolfan dechnoleg bwyd pwrpasol sy’n cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes ar waith.

 

Mae ‘Great Taste’ yn rhannu’r ymgeiswyr mewn i un, dau a thair seren, ble disgrifiwyd yr olaf fel ‘rhagorol’ ac yn ‘eithriadol o flasus’.

 

Cafodd Caws Teifi 3 seren am eu Gwyn Bach. Cawsant hefyd 2 seren ar gyfer Celtic Promise a 2 seren arall am eu Teifi Mature.

 

Enillodd Ceri Valley Orchards 2 seren ar gyfer eu finegr seidr Blackcurrant a derbyniodd Continental Drifter Mantle Brewery 2 seren.

 

Derbyniodd cynhyrchwyr bwyd Ceredigion gyfanswm o 19 o raddfeydd 1 seren. Mae’r canlyniadau llawn i’w gweld ar wefan ‘Great Taste Awards’: https://greattasteawards.co.uk/results

 

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: “Mae hyn yn newyddion gwych i’n cynhyrchwyr bwyd yma yng Ngheredigion. Mae’n wych gweld cymaint o gynnyrch o ansawdd yn cael eu cydnabod, ac mae llawer ohonynt wedi defnyddio cyfleusterau Canolfan Bwyd Cymru yn Horeb i ddatblygu a mireinio eu cynnyrch ar gyfer y farchnad ddefnyddwyr. Llongyfarchiadau i bawb a enillodd y gydnabyddiaeth hon ac i fusnesau bwyd sydd angen datblygu eu cynnyrch, cysylltwch â Chanolfan Bwyd Cymru.”

 

Gall cynhyrchwyr bwyd a hoffai dderbyn gwybodaeth fynd i wefan Canolfan Bwyd Cymru: https://foodcentrewales.org.uk/hafan/


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page