Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Cyswllt Ffermio yn ychwanegu modiwl bwydo defaid newydd at raglen hyfforddiant

Gall ffermwyr defaid yng Nghymru ddysgu am strategaethau maeth ar gyfer eu diadelloedd trwy gydol y flwyddyn gynhyrchu mewn gweithdy newydd wedi’i Achredu gan Lantra sydd wedi’i ychwanegu at raglen hyfforddiant iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio.

 

Bydd paru diet â gofynion maeth mamogiaid ac ŵyn ar adegau hollbwysig o’r flwyddyn yn sicrhau mwy o effeithlonrwydd a chynhyrchiant, meddai Becky Summons, Rheolwr E-ddysgu Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio.

 

Gan gadw hyn mewn cof, mae Cyswllt Ffermio wedi cyflwyno modiwl hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid newydd, Bwydo’r Ddiadell er mwyn cael y Perfformiad Gorau, a fydd yn cael ei ddarparu gan filfeddygon lleol cymeradwy ledled Cymru.

 

“Bydd y rhai sy’n mynychu’r gweithdai’n gweithio trwy ofynion maeth y ddiadell, gan ganolbwyntio ar yr adegau tyngedfennol yn ystod y flwyddyn,” meddai Ms Summons.

 

Bydd themâu cynllunio iechyd, defnydd cyfrifol o wrthfiotigau a thriniaethau lladd llyngyr, a manteision amgylcheddol gwella cynhyrchiant, yn cael eu hintegreiddio drwy’r cwrs cyfan, ychwanegodd.

 

Bydd y rhai sy’n mynychu’r cwrs yn dod i ddeall yr egwyddorion sylfaenol o sut i fesur ac asesu sgôr cyflwr corff (BCS) mewn defaid ar raddfa pum pwynt a sut i nodi’r pwyntiau hollbwysig yn y cylch cynhyrchu pan allai maeth anghywir a sgôr cyflwr corff gael effaith andwyol ar effeithlonrwydd a chynhyrchu.

 

Mae canlyniadau dysgu eraill yn cynnwys deall sut mae penderfyniadau a wneir am faeth yn effeithio ar gynhyrchiant y ddiadell, a sut y dylid gwneud y penderfyniadau hynny fesul fferm ac yn seiliedig ar sgôr cyflwr y ddiadell a’r bwyd sydd ar gael.

 

Bydd y rhai sy’n mynychu hefyd yn dod i werthfawrogi rôl cynllunio iechyd o ran profi clefydau metabolaidd ac ychwanegu elfennau hybrin a dealltwriaeth o fudd amgylcheddol rheoli maetholion da.

 

Mae’r cwrs hwn wedi’i ariannu’n llawn ond i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid rhaid i bawb sy’n mynychu fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP).

 

Bydd presenoldeb pawb yn y gweithdy’n cael ei gofnodi ar ‘Gofnod DPP ‘ Storfa Sgiliau’r rhai sy’n bresennol ynghyd â ‘thystysgrif presenoldeb’ Gwobrau Lantra .

 

Cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu ewch i wefan Cyswllt Ffermio https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy i gael rhagor o wybodaeth.


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page