Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Elusen y GIG yn ariannu hyfforddiant rhagnodi meddyginiaeth ffordd o fyw ar gyfer nyrs glinigol arbenigol

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu hyfforddiant ar-lein Rhagnodi Meddyginiaeth Ffordd o Fyw ar gyfer Nyrs Glinigol Arbenigol Niwro-Oncoleg, Janet Bower.

 

Mae meddyginiaeth ffordd o fyw yn gangen o feddyginiaeth sy’n canolbwyntio ar ofal iechyd ataliol a hunanofal. Mae’n canolbwyntio ar feysydd fel maeth, gweithgaredd corfforol, cwsg, rheoli straen, osgoi sylweddau peryglus, a chysylltiadau cymdeithasol cadarnhaol. Mae’r cwrs yn hyfforddi’r ymarferydd mewn gofal personol ac egwyddorion meddyginiaeth ffordd o fyw, gan eu cefnogi i dyfu eu hyder wrth gymhwyso meddyginiaeth ffordd o fyw mewn ffordd ymarferol i ymarfer.

 

Mae Janet yn cefnogi ac yn gofalu am bobl sydd wedi cael diagnosis o diwmor sylfaenol ar yr ymennydd ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

Dywedodd Janet: “Rwy’n hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i mi ddilyn yr hyfforddiant Rhagnodi Meddyginiaeth Ffordd o Fyw. Mae’r hyfforddiant wedi fy nghefnogi i ymateb i heriau y mae pobl yn eu hwynebu sydd y tu allan i’r sgîl-effeithiau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â thriniaeth.

 

“Er enghraifft, mae llawer o gleifion tiwmor yr ymennydd yn cael eu heffeithio gan flinder, rheolaeth wael ar ddiabetes, diffyg cwsg, llai o ymarfer corff a cholli hyder. Bydd y cwrs hwn yn fy hyfforddi i asesu ar gyfer y materion ehangach sy’n effeithio ar bobl a darparu cyngor ymarferol i wella ansawdd eu bywyd.

 

“Her gofalu am bobl â thiwmorau ar yr ymennydd yw y gall opsiynau triniaeth fod yn gyfyngedig a dod â sgil-effeithiau heriol. Mae cwblhau’r cwrs hwn wedi golygu y gallaf gynnig opsiwn arall i bobl sy’n diwallu eu hanghenion unigol ochr yn ochr ag unrhyw driniaeth gonfensiynol.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page