Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Pobl ifanc yn codi arian i Ysbyty Bronglais

Mae pobl ifanc o Glwb Ieuenctid Aberaeron wedi codi arian i Ward Plant Angharad yn Ysbyty Bronglais.

 

Dywedodd Cara Jones, Gweithiwr Ieuenctid Ceredigion: “Penderfynodd y bobl ifanc sy’n mynychu Clwb Ieuenctid eu bod am godi arian at achos lleol. Penderfynodd y bobl ifanc y byddai’r elw yn cael ei roi i Ward Plant Angharad eleni. Codwyd arian drwy gynllunio eu cardiau Nadolig eu hunain, celf cerrig mân a chônau siocled poeth a’u gwerth mewn ffeiriau Nadolig lleol.”

Cyflwynodd Mari a Scarlett, aelodau o glwb Ieuenctid Aberaeron yr arian i’r ward ac fe ddywedon nhw: “Mae Ward Angharad yn cynnig gofal a chefnogaeth wych i lawer o blant a phobl ifanc. Roedd yn hyfryd i ni allu rhoi ychydig yn ôl iddyn nhw a’u staff gwych.”

 

Alun Williams yw Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes. Dywedodd: “Da iawn i bawb a gododd arian ar gyfer achos lleol teilwng. Dwi’n siŵr bod y ward wrth eu bodd gyda’r cyfraniad tuag at eu gwasanaeth hanfodol.”

 

Mae Clybiau Ieuenctid yn cynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac ymlacio gyda ffrindiau mewn amgylchedd diogel a chynhwysol. Mae Clybiau Ieuenctid Aberaeron ac Aberteifi ar agor rhwng 3.30pm a 6.30pm bob dydd Mercher, tra bod Clwb Ieuenctid Aberystwyth ar agor rhwng 3.30pm a 6.30pm bob dydd Iau.

 

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â 01545 570881 neu Porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk, neu gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ar Facebook, Twitter ac Instagram am @giceredigionys


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page