Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Staff ward strôc i ddringo’r Wyddfa

Mae staff o Ward Ystwyth, y ward strôc acíwt yn Ysbyty Bronglais, yn dringo’r Wyddfa i godi arian ac ymwybyddiaeth o strôc.

Mae Nyrsys Staff, Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, Clerc y Ward, Prif Nyrsys Ward, Ffisiotherapyddion a Therapydd Galwedigaethol o’r ward, ynghyd â theulu a ffrindiau, yn dringo ar 1 Mehefin 2025.

 

Dywedodd Jackie Thomas, Clerc y Ward: “Rydym yn codi arian ar gyfer offer adsefydlu ar gyfer Ward Ystwyth ac yn rhoi rhodd i’r Gymdeithas Strôc.

 

“Rydym yn dymuno codi ymwybyddiaeth o strôc yn ein cymuned leol a pha mor bwysig yw hi i weithredu ar yr arwyddion cyntaf o strôc. Bydd yr arian a godir yn helpu gydag adferiad cleifion ac adsefydlu.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff Ward Ystwyth am ddod ynghyd i ymgymryd â her mor wych i godi arian ac ymwybyddiaeth. Pob lwc i chi gyd!

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gyfrannu at y codwr arian, ewch i: https://www.justgiving.com/page/ystwyth-ward1

 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page