Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

“Tai, Gwaith, Iaith – Angen strategaeth newydd i atal diboblogi”

Ar drothwy sesiwn banel arbennig ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ddydd Llun, mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddatblygu strategaeth newydd gynhwysfawr i atal diboblogi mewn cymunedau Cymreig.

 

Wrth gyfeirio at ffigyrau sy’n dangos cwymp yn y nifer o bobl iau mewn ardaloedd megis Môn a Phenfro, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS mai “tai, gwaith, ac iaith” yw conglfeini cymunedau hyfyw a gwydn.

 

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru fod ei blaid wedi sicrhau sawl gweithred gadarnhaol gan Lywodraeth Cymru yn sgil y Cytundeb Cydweithio, ond bod yn rhaid i’r Llywodraeth fynd llawer pellach os am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac os am wella gwytnwch economaidd cymunedau cefn gwlad.

 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

 

“Mae pobl ifanc Cymru yn cael eu gorfodi i adael eu cymunedau yn eu cannoedd oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith a phrinder cartrefi fforddiadwy.

 

“Mae gennym genhedlaeth o dalent sy’n ysu i wneud cyfraniad ond mae methiant Llywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael a’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau yn golygu fod diffyg cyfleoedd iddynt.

 

“Rhwng dau gyfrifiad 2011 a 2021, gwelwyd cwymp o 2,300 yn y nifer o bobl 35-49 oed sy’n byw ar Ynys Môn tra bod y ffigwr cyffelyb ar gyfer Sir Benfro yn 4,000.

 

“Tai, gwaith, iaith – dyna gonglfeini cymunedau hyfyw a gwydn. Dyna pam fod Plaid Cymru wedi blaenoriaethu taclo’r argyfwng tai fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gan berswadio Llywodraeth Lafur Cymru i weithredu ar ail gartrefi. Dyna pam hefyd ein bod wedi sicrhau cyllid i’r cynllun Arfor 2 sy’n buddsoddi mewn gwella gwytnwch economaidd cadarnleoedd yr iaith.

 

“Ond mae angen i’r Llywodraeth fynd llawer pellach. Nid dim ond prinder cartrefi fforddiadwy sy’n gorfodi pobl ifanc i symud ond hefyd y diffyg swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n dda.

 

“Mae’n rhaid felly i Lywodraeth Lafur Cymru ddatblygu strategaeth newydd bellgyrhaeddol i fynd i’r afael a diboblogi ac i ddenu buddsoddiad cynaliadwy i gadarnleoedd ein hiaith.

 

“Rhaid i hyn gynnwys cefnogaeth frys i ardaloedd megis Llangefni a Chapel Hendre sydd wedi colli cannoedd o swyddi yn ddiweddar wrth i gwmnïau godi pac yn sgil yr argyfwng costau byw a Brexit.

 

“Mae gwarchod y Gymraeg hefyd yn fwy na gosod targed – rhaid gwarchod y cymunedau hynny ble gall yr iaith ffynnu. Mae data’r Cyfrifiad yn dangos fod llai o blant yn credu eu bod yn medru’r Gymraeg nag oedd ddeng mlynedd yn ôl, ac mae’r amcan o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050 yn ymddangos yn gynyddol afrealistig ar sail ymagwedd a pholisïau presennol y Llywodraeth.

 

“Dengys y Cyfrifiad hefyd fod cwymp yn y nifer o oedolion sy’n siarad Cymraeg yn yr ardaloedd ble fo cynnydd yn y nifer o ail gartrefi, ac mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cael pecyn cynhwysfawr o bolisïau i fynd i’r afael a’r heriau sy’n wynebu meysydd tai, gwaith ac iaith, a hynny ar fyrder.”

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page