Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Vaughan Gething yn amlinellu’r camau gymerwyd gan Llywodraeth Cymru ynglyn a Tata Steel

MAE Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi wedi diweddaru aelodau’r Senedd ynglyn a’r sefyllfa sy’n bodoni am TATA Steel.

Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd:

“Bydd yr aelodau wedi rhannu’r ymdeimlad dwfn o bryder wrth glywed y newyddion yr wythnos diwethaf ynglŷn â TATA Steel, a’r ffaith bod eu dyfodol ym Mhort Talbot o dan fygythiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod wrthi yn cynnal trafodaethau â TATA, Llywodraeth y DU a’r undebau llafur ers nifer o fisoedd, mewn perthynas â chynlluniau’r cwmni i newid i ddyfodol carbon isel. Ym mis Mai, cyfarfu’r Prif Weinidog a minnau â TV Narendran, Prif Swyddog Gweithredol a Rheolwr Gyfarwyddwr TATA Steel Ltd, a Dr Henrik Adam, Cadeirydd TATA Steel UK i drafod yr heriau sy’n wynebu’r sector dur a’r angen dybryd am gymorth ariannol i alluogi symud i ddur carbon isel.

Rwyf wedi cwrdd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS i hyrwyddo’r achos dros weithredu ar frys er mwyn sicrhau cytundeb sy’n cynnwys pecyn cydlynol gan Lywodraeth Cymru a’r DU.  Cwrddais i hefyd ag Ysgrifennydd Gwladol blaenorol Cymru i atgyfnerthu’r pwyntiau hyn. Oherwydd y rôl ganolog y bydd Trysorlys EM yn ei chwarae wrth ddarparu unrhyw gymorth ariannol, cyfarfu’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ddiweddar â Phrif Ysgrifennydd, Trysorlys EM i ofyn i’r Trysorlys weithio gyda ni ar y mater hwn.

Bu’r Prif Weinidog hefyd yn trafod y mater ag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar y pryd yn gynharach yn y mis er mwyn ceisio cael cytundeb ar fesurau ymarferol i gyflymu’r cynnydd ar y mater.

Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ohebiaeth bellach i Brif Weinidog y DU, Canghellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS i bwysleisio’r ffaith y byddai oedi pellach yn peri risg o gynyddu costau a rhagor o bryder i’r gweithlu a’r gymuned leol.  Byddaf yn codi’r materion hyn pan fyddaf yn cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru.

Yn y dyddiau yn dilyn y cyhoeddiad, cwrddodd fy swyddogion â’r cwmni, Llywodraeth y DU a’r undebau llafur er mwyn deall y sefyllfa ddiweddaraf yn well. Ein ffocws yw archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus, carbon isel i ddur Cymru. Mae’r nod yn gwbl bosib, ond mae angen gweithredu a chydweithredu gan Lywodraeth y DU.  Ni ellir gohirio’r holl waith manwl sydd ei angen yn yr wythnosau nesaf nes bod Prif Weinidog newydd wedi cael ei ddewis ac rydym yn disgwyl i gynnydd gael ei wneud yn y cyfamser.  Mae gwneud dur o bwys sylfaenol i Economi Cymru a’r DU a bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i sefyll dros ein diwydiant dur a’r gweithlu ymroddedig a medrus y mae’n ei gyflogi.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page