Yn galw ar holl dyfwyr garddwriaeth fasnachol a darpar dyfwyr… darganfyddwch beth sydd ar gael trwy raglen arddwriaeth newydd Cyswllt Ffermio yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni

A ydych chi’n arddwriaethwr sefydledig, neu’n un o lawer o dyfwyr masnachol arbenigol ar raddfa fach Cymru? Neu efallai eich bod yn dirfeddiannwr sy’n chwilio am gyfle arallgyfeirio cynaliadwy newydd? Os gallwch ateb ‘ydw’ i unrhyw un o’r cwestiynau hyn a’ch bod yn bwriadu ymweld â Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd (Mai 20 a 21), trowch at Cyswllt Ffermio i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael i chi. Ac os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, gallwch chi wneud hynny hefyd!

Wedi’i leoli yn yr adeilad ‘aelodau’ â blaen gwydr, ger prif fynedfa’r ŵyl, mae Cyswllt Ffermio eleni yn estyn allan nid yn unig i ffermwyr, ond hefyd at yr holl dyfwyr garddwriaethol masnachol sefydledig a’r rhai sy’n ystyried ymuno â’r sector hwn sy’n ehangu’n gyflym.

Mae Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, yn esbonio bod y rhaglen arddwriaeth – ‘Tyfu ar gyfer Twf’ – yn un o wasanaethau mwyaf newydd Cyswllt Ffermio. Wedi’i lansio fis diwethaf fel gwasanaeth ychwanegol pwysig o fewn y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd yr holl wasanaethau cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant yn parhau i gael eu darparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru.

“Garddwriaeth fasnachol yw un o’r diwydiannau arbenigol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU gydag arbenigwyr eisoes yn rhagweld cymaint â 25% o gynnydd mewn busnes newydd dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae llawer o siopwyr a ddaeth i drefn newydd o ‘brynu’n lleol’ yn ystod y pandemig wedi parhau i gefnogi siopau fferm a chynhyrchwyr lleol eraill a’r newid hwn mewn patrymau prynu, ynghyd â defnyddwyr heddiw, sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ac yn benderfynol o chwilio am gynnyrch ‘wedi’i dyfu’ yn hytrach na chynnyrch ‘wedi’i gludo’ sy’n cael ei fewnforio o wledydd eraill, wedi creu cynnydd sylweddol yn y galw.”

Bydd rhaglen ‘Tyfu ar gyfer Twf’ Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth ar gyfer ystod enfawr o dyfwyr a chynhyrchwyr sy’n cynnig ffrwythau, coed ffrwythau gan gynnwys mathau treftadaeth, blodau, llysiau, cynnyrch salad, perlysiau a sbeisys, bwydydd nad ydynt yn fwytadwy, addurniadau, helyg, pwmpenni a grawnwin, i goed Nadolig a llawer mwy o opsiynau cyffrous.

Yn yr ŵyl, bydd deuddeg o arddangoswyr stondinau masnach yn arddangos yr hyn y maent yn ei dyfu ac ynghyd â nifer o arbenigwyr ‘garddwriaeth’ gwadd a fydd ar gael trwy gydol y digwyddiad, gallai hyn fod yn gyfle perffaith i ddysgu am naill ai sefydlu neu ehangu menter arddwriaeth sy’n bodoli eisoes, o’r ‘hedyn syniad’ cyntaf hyd at weld eich cynlluniau’n cael eu gwireddu gyda’ch cynnyrch a’ch balans banc yn edrych yn iach!

“Mae ymchwilio i beth i’w dyfu, plannu, meithrin, tocio, bwydo ac impio i gyd yn rhan annatod o’r hyn sydd ei angen i redeg menter arddwriaeth lwyddiannus yng Nghymru ac mae’r rhain i gyd yn feysydd y gallwch ddysgu amdanynt gyda’n cefnogaeth ni,” meddai Mr. Thomas.

Bydd tîm Cyswllt Ffermio wrth law i hyrwyddo pob elfen o’r gwasanaeth, gan gynnwys y ddarpariaeth hyfforddiant ac e-ddysgu, sydd i gyd naill ai wedi’u hariannu hyd at 80% neu’n cael eu hariannu’n llawn. Bydd hyn yn berthnasol i bawb sydd am gryfhau naill ai sgiliau ymarferol neu dechnegol, neu i wella eu gwybodaeth am bynciau busnes, ariannol a marchnata gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth am Cyswllt Ffermio a’i ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth, arweiniad a hyfforddiant neu i wirio meini prawf cymhwysedd, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Unlike  other news outlets, Carmarthenshire News Online does not receive massive advertising revenue or large grants. We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: