Cynghorydd Rob Evans yn Gadeirydd newydd y Cyngor Sir

DYWEDODD Cadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin ei fod yn bwriadu codi arian ar gyfer dwy elusen sy’n agos at ei galon yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Mae’r Cynghorydd Rob Evans, aelod dros Ward Dafen a Felin-foel, yn cymryd y gadwyn swyddogol wrth ddathlu blynyddoedd lawer fel cynghorydd gwledig Dafen.

Wrth gymryd y gadeiryddiaeth talodd y Cynghorydd Evans deyrnged i’r cadeirydd a oedd yn gadael ei swydd, y Cynghorydd Eirwyn Williams gan ddweud ‘bod ganddo esgidiau mawr i’w llenwi.’

Y Cynghorydd Evans fydd Cadeirydd y Cyngor am y 12 mis nesaf, gyda’r Cynghorydd Louvain Roberts, yr aelod dros Glanymôr, fel ei Is-gadeirydd, a’i wraig y Cynghorydd Nysia Evans fel ei gydymaith.

“Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn i ddod, rydym yma i’r preswylwyr ac mae fy nrws bob amser ar agor,” meddai.

Mae’r Cynghorydd Evans wedi dewis Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis Tŷ Bryngwyn yn Llanelli, sy’n darparu gofal lliniarol arbenigol i gymuned Sir Gaerfyrddin, fel Elusennau’r Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn.

Dywedodd:

“Gan i mi fod yn glaf yn Hosbis Tŷ Bryngwyn rwyf wedi profi’n uniongyrchol pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth hwn – mae’n lle gwych ac mae’r gwaith y maent yn ei wneud yn anhygoel. Hefyd, Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n dibynnu’n llwyr ar arian cyhoeddus, yw ein hangylion yn yr awyr, ac rwyf wedi gweld drwy fy swydd y gwaith rhyfeddol y maent yn ei wneud – maent yn achub bywydau.”

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Ymhlith dyletswyddau’r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli’r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i’r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a’u cefnogi.

Mae’r Cynghorydd Evans wedi bod yn Gynghorydd Sir ers 2017, ac yn aelod o Gyngor Gwledig Llanelli yn ystod 2004-08, 2012-2017 a heddiw.

Mae’n cynrychioli’r Cyngor Sir yn Ward Dafen a Felin-foel yn Llanelli, mae’n gadeirydd Lleng Brydeinig Frenhinol Llanelli ac mae ar gorff llywodraethu Ysgol Gynradd Dafen ac Ysgol Uwchradd Bryngwyn.

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Coleshill, mae’r Cynghorydd Evans wedi gweithio fel parafeddyg gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn fwyaf diweddar fel parafeddyg cofrestredig y wladwriaeth sy’n darparu hyfforddiant Cymorth Cyntaf ac mae wedi derbyn dwy wobr ddewrder leol am achub bywydau.

Mae’n gefnogwr rygbi brwd, yn mwynhau pysgota â phlu, teithio ac ymweld â beddau rhyfel y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd yn Ffrainc.

Mae’n briod â dau o blant ac mae ganddo ddau o wyrion.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page