Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Cynllun amddiffynfeydd môr y Mwmbwls yn cymryd cam mawr nesaf

Mae cynlluniau ar gyfer amddiffynfeydd môr newydd i helpu i amddiffyn y Mwmbwls am ddegawdau i ddod wedi cymryd cam mawr arall ymlaen.

Cymeradwyodd cabinet Cyngor Abertawe gytundeb ariannu’r cynllun rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyngor, y gost adeiladu a dyfarnu’r contract adeiladu.

Bydd y cyngor nawr yn cyflwyno ei achos busnes terfynol i Lywodraeth Cymru ar gyfer ei gymeradwyo.

Os caiff hwnnw ei gymeradwyo, bydd y prosiect a gyflwynir gan y cyngor – sydd wedi bod yn destun sawl blwyddyn o gynllunio ac ymgynghori gofalus – yn symud ymlaen i’r cam adeiladu, a fydd yn dilyn ymagwedd fesul cam o ddiwedd y flwyddyn eleni i o gwmpas haf 2024.

Mae’r cyngor yn bwriadu enwi’r contractwr yn gyhoeddus yn yr wythnosau nesaf ac yn parhau i roi’r newyddion diweddaraf i gynghorwyr wardiau lleol am y cynllun a dderbyniodd ganiatâd cynllunio ym mis Ebrill.

Bydd yn gweithio gyda’r contractwr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd a busnesau am sut y bydd y gwaith yn cael ei gyflwyno fesul cam ar gyfer y prosiect adeiladu mawr hwn.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd yng nghyfarfod y Cabinet:

“Mae Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfle sylweddol i ni ddod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy i broblemau cyfredol cyflwr morglawdd y Mwmbwls, a mynd i’r afael â pherygl llifogydd tymor hir sy’n effeithio ar y gymuned.

“Bydd hefyd yn cefnogi potensial datblygu ac adfywio’r ardal yn y dyfodol gan sicrhau gwelliannau i werth amwynder a hamdden y promenâd a’i ddefnydd fel atyniad pwysig i ymwelwyr.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page