Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Gostwng oedran sgrinio canser y coluddyn i 55 oed

BYDD profion sgrinio canser y coluddyn ar gael i fwy o bobl yng Nghymru wrth i brofion cartref gael eu hehangu i gynnwys unigolion 55 i 57 oed.

Golyga hyn y bydd 172,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn dechrau cael pecynnau hawdd eu defnyddio sy’n profi am ganser cyfnod cynnar yn y coluddyn. Mae’r cam hwn yn rhan o ddull fesul cam o ostwng yr oedran sgrinio i 50 erbyn mis Hydref 2024.

Bydd pobl 55, 56 a 57 oed yn dechrau cael eu gwahodd i gael eu sgrinio o ddydd Mercher 5 Hydref a bydd eu pecynnau profi gartref yn cyrraedd drwy’r post. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno i’r grŵp oedran cymwys newydd yn raddol dros y 12 mis nesaf.

Yn rhan o becyn buddsoddi gwerth £16 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae’r cyllid wedi cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r pecyn profi gartref FIT (Prawf Imiwnocemegol ar Ysgarthion), sy’n newydd ac yn haws ei ddefnyddio. Mae’r pecynnau profi gartref newydd wedi helpu i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y prawf sgrinio i 65% ac maent yn fwy sensitif er mwyn canfod rhagor o bobl sydd mewn perygl o ddatblygu canser y coluddyn.

Cafodd mwy na 2,500 o bobl ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2019. Mae’r rhaglen sgrinio yn chwarae rhan bwysig o ran canfod canser yn gynharach ac yn helpu i wella canlyniadau canser yng Nghymru.

Mae’r penderfyniad i ostwng yr oedran sgrinio yn seiliedig ar argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae’n wych gweld cam nesaf ein cynllun i ehangu’r mynediad at raglen sgrinio canser y coluddyn yn dod i rym.

Rydym eisoes wedi cyflwyno’r prawf haws ei ddefnyddio, ac wedi dechrau gwahodd unigolion 58-59 oed. Mae’r cam nesaf hwn o’r rhaglen yn ehangu mynediad i’r rhai 55-57 oed.

Bydd hyn yn ein helpu i ddarganfod mwy o achosion o ganser y coluddyn yn gynnar ac yn cynorthwyo i sicrhau gwelliannau mewn cyfraddau goroesi.

Rwy’n falch o weld hefyd bod mwy o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglen a bod y cyfraddau sy’n manteisio ar y profion sgrinio nawr yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig.

Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu parhau i wella’r rhaglen drwy ostwng yr ystod oedran i 50 a gwella sensitifrwydd y prawf nes y byddwn yn cyd-fynd ag argymhellion y DU.”

Meddai Genevieve Edwards, Prif Weithredwr Bowel Cancer UK:

“Mae hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir tuag at sgrinio o 50 oed yng Nghymru – rhywbeth rydym wedi ymgyrchu amdano ers peth amser. Sgrinio yw un o’r ffyrdd gorau o roi diagnosis cynnar o ganser y coluddyn, a’i atal yn y lle cyntaf mewn rhai achosion, felly rydym yn croesawu’r penderfyniad i wahodd mwy o bobl i gymryd rhan.

Cynnig y pecyn profi gartref i fwy o bobl yw un ffordd o wella rhaglen sgrinio’r coluddyn. Fodd bynnag, y rhwystr mwyaf i wella diagnosis cynnar, a chynnig rhaglen sgrinio o’r radd flaenaf, yw’r prinder gweithwyr hirdymor yn y gwasanaethau endosgopi a phatholeg. Mae angen inni fynd i’r afael â hyn ar frys drwy gynllun gweithlu cynhwysfawr a all gefnogi rhaglen sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru i gyrraedd ei photensial llawn.

Ychwanegodd Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwyr Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rwyf wrth fy modd ein bod yn ehangu rhaglen sgrinio canser y coluddyn i gynnwys y rhai sy’n 55, 56 a 57 oed yng Nghymru.

Nod rhaglen sgrinio canser y coluddyn yw canfod canser yn gynnar, ar adeg pan fydd triniaeth yn fwy tebygol o fod yn effeithiol. Mae canfod canser yn gynnar yn arbennig o bwysig gan y bydd o leiaf 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ddarganfod a’i drin yn gynnar. Mae rhaglen sgrinio canser y coluddyn hefyd yn canfod polypau cyn-ganseraidd sydd angen eu tynnu gan y gallant ddatblygu i fod yn ganser os cânt eu gadael yn y coluddyn.

Bydd y gwahoddiad a’r pecyn profi yn cyrraedd yr unigolion cymwys drwy’r post yn ystod y 12 mis nesaf. Mae’r pecyn profi yn hawdd ei ddefnyddio a’i anfon i’n labordy i’w ddadansoddi.

Rwy’n annog pawb sy’n cael gwahoddiad i fanteisio ar y cynnig hwn gan y gall achub eu bywyd.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page