Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Gweinidog Materion Gwledig yn cyflwyno Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

MEWN datganiad ysfrifenedig mae Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cyflwyno mesur hanesyddol sef Bil Amaethyddiaeth (Cymru).

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r Bil yn sefydlu Rheoli Tir Cynaliadwy fel y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer polisi amaethyddol y dyfodol. Mae’r fframwaith polisi ‘a wnaed yng Nghymru’ hwn yn canolbwyntio ar amcanion ategol cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, ochr yn ochr â gweithredu i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, cyfrannu at gymunedau gwledig ffyniannus a chadw ffermwyr ar y tir. Mae mabwysiadu’r dull hwn o weithredu yn ceisio sicrhau’r canlyniadau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yn sgil Rheoli Tir Cynaliadwy er budd pobl Cymru yn yr hirdymor.

Mae’r Bil yn ganlyniad sawl blwyddyn o ddatblygu polisiau, cyd-ddylunio, ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Diolch o galon i bawb sydd wedi rhoi eu hamser i weithio gyda ni hyd yn hyn. Canlyniad hyn yw deddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol sy’n newid degawdau o gymorth ffermio’r UE, gan ddatgan newid sylweddol yn ein dull o gefnogi’r sector amaethyddol yma yng Nghymru.

Yn gynharach eleni, cyhoeddais ein cynigion amlinellol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Y Cynllun arfaethedig fydd prif ffynhonnell cefnogaeth y Llywodraeth i ffermwyr yng Nghymru yn y dyfodol . Mae’r Bil yn rhoi’r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth yn y dyfodol tra hefyd yn sicrhau y gallwn barhau i gefnogi ein ffermwyr yn ystod cyfnod o drawsnewid, gan adlewyrchu ein hymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio gyda Plaid Cymru.

Mae’r Bil yn diwygio Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 i ddarparu llwybr i ffermwyr sy’n denantiaid i ddatrys anghydfodau er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad at gymorth ariannol sy’n cael ei ddarparu o dan bŵer darpariaethau cymorth yn y Bil.  Mae hefyd yn disodli pwerau am gyfnod penodol yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 a fydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2024.

Bydd y Bil yn newid Deddf Coedwigaeth 1967 i roi’r pŵer i Gyfoeth Naturiol Cymru ychwanegu amodau at ddiwygio, atal neu ddirymu trwyddedau torri coed i atal torri coed a fyddai’n gwrth-ddweud deddfwriaeth amgylcheddol arall.

Yn dilyn ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu, mae’r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud. Mae’n bwysig nodi arwyddocâd y darpariaethau hyn. Cymru fydd y cyntaf o wledydd y DU i wahardd y defnydd o faglau a thrapiau glud yn llwyr.

Mae copi o’r Bil a’i ddogfennaeth ategol ar gael yma. Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yng Nghyfarfod Llawn y Senedd ar 27 Medi 2022. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau’r Senedd yn ystod eu hadolygiad o Fil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y misoedd nesaf.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page