Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Hywel Dda i ddechrau gwaith ar uned ddydd canser gwerth £3 miliwn

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau heddiw (dydd Iau, 28 Mawrth 2024) y bydd gwaith adeiladu ar yr Uned Ddydd Cemotherapi (CDU) newydd yn Ysbyty Bronglais yn dechrau ym mis Mai.

Bydd y prosiect yn sicrhau gwelliannau sylweddol mewn gofal a phrofiad i gleifion Hywel Dda.

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion Hywel Dda a chyfarwyddwr prosiect ar gyfer datblygu’r uned newydd: “Rwy’n falch iawn y byddwn yn gwireddu ein huchelgais yn fuan i Ysbyty Bronglais gael uned addas i’r diben ar gyfer cleifion canser.

“Rydym wedi goresgyn oedi byr, a gyda chefnogaeth gan ein staff, Elusennau Iechyd Hywel Dda, aelodau ein Bwrdd a’n contractwr adeiladu, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau’n fuan. Rwy’n disgwyl i’r uned newydd gwerth £3 miliwn fod yn barod i groesawu ei chleifion cyntaf y flwyddyn nesaf.”

Mae’r gyllideb ar gyfer y datblygiad wedi bod dan bwysau oherwydd costau deunyddiau sy’n cynyddu’n gyflym. Fodd bynnag, gyda chynllunio a chyllidebu gofalus, mae’r bwrdd iechyd bellach ar y trywydd iawn i bron i ddyblu’r arwynebedd llawr sydd ar gael ar gyfer triniaeth ac ardaloedd staff i 600 metr sgwâr.

Mae Peter Skitt yn parhau: “Bydd y prosiect yn ailfodelu rhan o’r arwynebedd llawr presennol ac yn addasu llety i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion staff a chleifion i ddarparu cyfleuster modern a chroesawgar.

“Yn olaf, mae ein dyled yn fawr i ymdrechion codi arian diflino ein cefnogwyr elusennol, llawer ohonynt yn staff ein hunain neu’n aelodau o’n cymunedau Ceredigion, de Gwynedd a Phowys. Bydd eu hymrwymiad yn ein helpu i wireddu gweledigaeth sydd gennym ar gyfer ein cleifion a’n staff ers 2017. Bydd y cyfleuster newydd yn gwbl anadnabyddadwy o’i gymharu â heddiw,” meddai.

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page