Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion ar codi cyflogau staff GIG byng Nghymru

MAE’R Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi derbyn argymhellion cyrff adolygu cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gyhoeddi cynnydd i gyflogau staff GIG yng Nghymru.

Argymhelliad Corff Adolygu Cyflogau’r GIG (NHSPRB), ar gyfer staff y GIG ar delerau ac amodau’r Agenda ar gyfer Newid – gan gynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion, gweithwyr cymorth gofal iechyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yw cynnydd o £1,400 i gyflogau yn y mwyafrif o raddfeydd cyflog. Ond, dywedodd y Gweinidog Iechyd, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r argymhelliad hwn ar ben y cynnydd Cyflog Byw Gwirioneddol a gyhoeddwyd yn flaenorol ac a ddaeth i rym ym mis Ebrill.

Ar gyfer staff ar y cyflogau isaf (bandiau 1 i 4), sef bron i hanner gweithlu’r Agenda ar gyfer Newid, bydd hyn ar gyfartaledd yn cyfateb i gynnydd cyflog o 7.5% ar raddfeydd cyflog.

Bellach, £20,758 fydd cyflog cychwynnol y swyddi sy’n talu’r cyflogau isaf, yn band 1 a gwaelod band 2, yn GIG Cymru. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd cyflog o 10.8% yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer y band hwn ac fe fyddai’n golygu mai Cymru yw’r wlad sy’n talu’r cyflogau uchaf yn y DU i’r staff yn y bandiau isaf yn y GIG.

Ar gyfer staff ar frig band 6 ac ym mand 7, ychwanegir at y taliad o £1,400 fel y bydd yn cyfateb i gynnydd cyflog o 4%.

Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd gydag undebau llafur a chyrff cynrychioladol yr wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar amrywiol faterion eraill a godwyd fel rhan o’r trafodaethau.

Mae’r Gweinidog Iechyd hefyd wedi derbyn argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion (DDRB) i gynyddu cyflogau 4.5% ar gyfer meddygon iau, ymgynghorwyr, meddygon teulu a deintyddion sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y byrddau iechyd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol a byddwn yn parhau i ddefnyddio ein strwythurau partneriaeth gymdeithasol gan ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a’r llywodraeth at ei gilydd i sicrhau’r canlyniad gorau posibl o fewn y cyllid sydd ar gael i ni. Rwy’ am ddiolch i undebau llafur a chyrff cynrychioliadol am roi o’u hamser i gwrdd â mi yr wythnos hon ac am y trafodaethau adeiladol a gawsom.

Mae staff y GIG wedi gweithio’n eithriadol o galed drwy gydol y pandemig i’n diogelu ni i gyd ac maen nhw’n parhau i ddarparu gwasanaeth anhygoel yn wyneb pwysau dwys.

Rwy’n gobeithio y bydd y dyfarniad cyflog hwn yn helpu i gydnabod eu gwaith caled, ond heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU mae’n anochel bod cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwn fynd yng Nghymru. Rydyn ni’n dal i bwyso arnyn nhw i drosglwyddo’r cyllid llawn sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus.

Rydyn ni i gyd yn wynebu argyfwng costau byw. Rydyn ni wedi strwythuro’r dyfarniad cyflog hwn er mwyn i’r staff ar y cyflogau isaf yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol weld y cynnydd mwyaf yn eu cyflog, sy’n cyfateb i gynnydd cyflog o 10.8%, gan olygu mai’r Cymru fydd y wlad sy’n talu’r cyflogau uchaf yn y Deyrnas Unedig i’r staff yn y bandiau cyflog isaf yn y Gwasanaeth Iechyd.”

Er nad yw o fewn cylch gwaith y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion, bydd meddygon arbenigedd ac arbenigol o dan gontract 2021 yn cael taliad untro o £1,400 i gydnabod yr argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o’r blaen. Bydd meddygon arbenigedd o dan gontract 2008 yn derbyn cynnydd cyflog o 4.5%, ond bydd y rhai ar y raddfa gyflog uchaf o dan gontract 2008 yn cael taliad untro sy’n cyfateb i 4.5%.

Mae’r cynnydd o 4.5% a argymhellir mewn cyflog ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a deintyddion dan gontract yn amodol ar newidiadau cyffredinol i gontractau gan y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a Deintyddol Cyffredinol ac mae trafodaethau’n parhau.

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi’i gwneud yn glir y dylai staff sy’n gweithio ym maes ymarfer cyffredinol, mewn timau deintyddol ac mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru gael cynnydd cyflog teg a chymesur.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page