Plant Cymru i elwa ar fuddsoddiad o £100 miliwn mewn gofal plant

MAE buddsoddiad sylweddol o bron i £100 miliwn yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i wella argaeledd gofal plant, cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ac ariannu llefydd rhan-amser am ddim.

Bydd y cyllid yn cynnwys £26 miliwn ar gyfer cam nesaf ehangu gofal plant rhan-amser Dechrau’n Deg; £70 miliwn ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw hanfodol fydd ar gael i bob lleoliad gofal plant a £3.8 miliwn i gefnogi mwy o ddarparwyr gofal plant i wella eu darpariaeth Gymraeg.

Mae’r buddsoddiad yn rhan o gynllun graddol i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg, sydd yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian y cyllid wrth ymweld â meithrinfa Cylch Meithrin yn Abergele.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae ein buddsoddiad parhaus yn y sector gofal plant yn helpu i ddarparu cyfleusterau rhagorol i blant ar draws Cymru yn ogystal â chefnogi effeithiau cadarnhaol hirdymor ar fywydau plant a theuluoedd drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg.

Mae’n amlwg bod darpariaeth o safon uchel yn ystod y blynyddoedd cynnar yn cefnogi datblygiad y plentyn ac yn chwarae rôl bwysig o safbwynt sicrhau bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd a bod pob plentyn yn mwynhau dysgu, yn ehangu ei wybodaeth ac yn gwireddu ei botensial. Rwy’n arbennig o falch o fuddsoddi mewn darpariaeth Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y lleoliadau cyfrwng Cymraeg a nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y gweithlu.”

Meddai Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian:

“Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu mai sicrhau mynediad at ofal ac addysg blynyddoedd cynnar yw un o’r camau pwysicaf y gallwn eu cymryd i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant. Drwy symud ymlaen ac ehangu darpariaeth gofal plant am ddim, a’i gyflwyno’n raddol i bob plentyn dwy oed, gallwn wneud gwir wahaniaeth i flynyddoedd ffurfiannol plant ledled Cymru.

Mae plant yn dysgu ac yn elwa cymaint ar ddarpariaeth gofal plant safonol – mewn gwirionedd mae’r hyn sydd yn edrych fel chwarae syml yn brofiad addysgol pwysig lle mae plentyn yn dysgu ac yn cymdeithasu mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn darparu’r ymrwymiad pwysig hwn i’n holl gymunedau.”

Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac mae’n cynnwys gofal plant safonol rhan-amser am ddim i blant rhwng dwy a thair oed sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai hyd at 2,500 yn fwy o blant yn gymwys ar gyfer gwasanaethau Dechrau’n Deg ar draws Cymru. Dechreuodd cam cyntaf y rhaglen ledled Cymru ddechrau mis Medi.

Bydd ail gam yr ehangu yn gwneud mwy na 3000 yn fwy o blant dwy oed yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg o fis Ebrill 2023, gyda £11.65 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer 2023/24 a £14.3 miliwn ar gyfer 2024/25. Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn ystyried pa ardaloedd fydd yn cael eu cynnwys fel rhan o gam dau, a bydd teuluoedd cymwys yn cael gwybod am hynny yn y flwyddyn newydd.

Mae’r £70 miliwn ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau a gwaith cynnal a chadw ar gael i bob lleoliad gofal plant cofrestredig, a gallant ymgeisio drwy eu hawdurdod lleol. Bydd ceisiadau yn amrywio o wneud mân waith diweddaru i ofodau awyr agored i adeiladu cyfleusterau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £3.8 miliwn o gyllid dros y tair blynedd ariannol nesaf i gynorthwyo darparwyr gofal plant i wella eu darpariaeth Gymraeg. Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys cynyddu nifer y clybiau ar ôl ysgol cyfrwng Cymraeg cofrestredig yn ogystal â hyfforddi a chynorthwyo ymarferwyr i wella eu Cymraeg a throsglwyddo hynny i’r plant yn eu lleoliadau.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page