Sicrhau cyllid i uwchraddio Neuadd y Farchnad Aberteifi

Bydd Prosiect Neuadd y Farchnad Aberteifi yn hwyluso’r gwaith adnewyddu, atgyweirio a diweddaru cyfleusterau ar gyfer adeilad hanesyddol gradd 2* Neuadd y Farchnad, gan sicrhau ei ddyfodol a’i gynaliadwyedd hirdymor i fasnachwyr a chyfleoedd ar gyfer mentrau newydd.

 

Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â rhai o’r gwelliannau strwythurol sy’n ofynnol ar gyfer yr adeilad a fydd hefyd yn gwella apêl a chyfraniad cyffredinol i hyfywedd y dref.

 

Cost amcangyfrifiedig y prosiect ar gyfer Cam 1 a 2 yw £2.95 miliwn. Mae cyllid wedi cael ei sicrhau gan Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, Cynllun Datblygu Gwledig, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, y Loteri Genedlaethol, Cadw, Cronfa Treftadaeth Bensaernïol, Cronfeydd Preifat, Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a Cyngor Sir Ceredigion. Mae cyllid pellach o Gronfa Strategol Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi cael ei gymeradwyo ac arian cyfatebol rhannol gan Gyngor Sir Ceredigion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Rwy’n falch o’r sicrwydd i fuddsoddi ym Marchnad Dan Do Aberteifi. Fel Castell Aberteifi, yn ogystal â bod yn lle i fusnesau bach ddatblygu a thyfu gan sicrhau cyflogadwyedd hirdymor a chynaliadwy, mae gan yr adeilad hwn werth sylweddol o ran ei dreftadaeth. Bydd cwblhau’r prosiect hwn yn dod â mwy o fudd ac yn denu ymwelwyr o’r ardal ehangach.”

 

Mae Neuadd y Farchnad Aberteifi yn eiddo i Gyngor Sir Ceredigion, ac yn cael ei gosod ar brydles i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi. Menter Aberteifi sy’n gyfrifol am gynnal Neuadd y Farchnad ar ran Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi.


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page