Uned Llawfeddygaeth yn Ysbyty Tywysog Philip ar fin ei gwblhau

MAE gwaith ar fin cael ei gwblhau ar yr Uned Llawfeddygaeth Ddydd newydd yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, a fydd yn helpu i leihau rhestrau aros llawfeddygol fel bod pobl yn gallu cael eu gweld yn gyflymach ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflawni’r cynllun diolch i £20m o gyllid Llywodraeth Cymru. Bu Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, yn ymweld â’r uned ac mae disgwyl i’r uned groesawu cleifion yn ystod mis Medi 2022.

Dywedodd:

“Mae buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel uned llawfeddygaeth ddydd Ysbyty Tywysog Philip yn rhan hanfodol o’n strategaeth uchelgeisiol i drawsnewid gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru.

“Bydd yr uned newydd hon yn helpu i weld miloedd o bobl sydd angen triniaeth lawfeddygol yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, yn ogystal â’r rhai o fyrddau iechyd cyfagos, a bydd yn dod â mwy o wydnwch a gallu i GIG Cymru i ofalu am bobl pan fydd ei angen arnynt.”

Mae’r uned, yn cynnwys dwy theatr, a ddyluniwyd yn benodol i leihau’r risg o haint trwy gynhyrchu llif parhaus o aer rhydd o facteria, yn ogystal ag ystafelloedd paratoi, ystafelloedd anesthetig, cyfleusterau newid ac ardal adfer.

Yn y pen draw bydd gan y theatrau allu i gynnal chwe diwrnod yr wythnos a byddant yn cynnwys arbenigeddau gan gynnwys rhai orthopaedig, llawdriniaethau cyffredinol, wroleg a llawdriniaeth fasgwlaidd, er y bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflwyno’n raddol.

Er eu bod wedi’u lleoli yn Llanelli, bydd y theatrau’n darparu gofal i gleifion ar draws rhanbarth Hywel Dda ac i gleifion ar y ffiniau â byrddau iechyd Powys ac Abertawe.

Meddai y llawfeddyg ymgynghorol a’r Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Gofal wedi’i Drefnu Mr Ken Harries:

“Yn y pen draw, rydym yn edrych am tua phedair i bum mil o gleifion i dderbyn triniaethau yn yr uned hon yn flynyddol. Rydym yn uchelgeisiol ar ran ein cymunedau ac yn ymestyn ein sesiynau a’n dyddiau theatr i gynyddu effeithlonrwydd a gweld cleifion, y mae rhai ohonynt wedi gorfod aros am gyfnodau sylweddol o amser weithiau.

“Mae her barhaus o gael y gweithlu i’n helpu i gyflawni hyn, ond mae honno’n her rydym yn ei rhannu gyda’r GIG ledled y wlad ac yn un yr ydym yn rhoi ein holl ymdrechion iddi. Gobeithiwn y bydd y cyfleuster o’r radd flaenaf hwn a’n hymagwedd at adferiad yn denu recriwtiaid y dyfodol.

“Mantais ychwanegol y bydd yr uned hon yn ei rhoi i ni yw ei bod yn sefyll ar ei phen ei hun, sy’n ei hamddiffyn rhag effeithiau o fewn gweithgaredd ehangach y prif ysbyty, bydd hyn o fudd enfawr i gleifion sy’n dod i mewn i’r uned ac i’n staff hefyd.”

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol, Lee Davies:

“Mae hwn wedi bod yn brosiect uchelgeisiol, wedi’i yrru gan awydd a rennir i ddarparu cyfleusterau ychwanegol cyflym i gleifion ar draws ein rhanbarth i gael eu triniaeth. Mae’n rhan o’n cynllun adfer ehangach i fynd i’r afael yn gyflym â rhestrau aros sydd wedi tyfu yn ystod y pandemig, ac rydym yn gwybod bod hynny’n peri pryder sylweddol i’n trigolion ac yn flaenoriaeth allweddol i’r bwrdd iechyd hwn.”

Bydd diweddariadau pellach ynghylch pryd y bydd yr uned ar agor, a chyfathrebu uniongyrchol â chleifion, yn cael eu rhannu maes o law.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page