BYDD trigolion sy’n cofrestru gyda llyfrgell yn Sir Gaerfyrddin rhwng 3 a 9 Hydref yn derbyn mwy na llyfrau yn unig!
Fel rhan o ‘Wythnos Llyfrgelloedd’ (3-9 Hydref), bydd unrhyw un sy’n ymuno â llyfrgell yn ystod y cyfnod hwn yn gallu dewis un o’r cynigion canlynol ym Mharc Gwledig Pen-bre.
Tocyn diwrnod am ddim (parcio) i Ben-bre
Reidiau Tabogan, prynu 1 a chael 1 am ddim
Gostyngiad o 25% ar Golff Giamocs
Gostyngiad o 25% ar Wers sgïo i’r teulu
Gostyngiad o 25% ar Lain Wersylla heb drydan (hyd at 4 Tachwedd, 2022)
*Mae pob cynnig yn para tan 31 Rhagfyr, 2022.
Mae am ddim ac yn hawdd ymuno – ewch i unrhyw un o lyfrgelloedd y sir rhwng 3 a 9 Hydref i gofrestru. Mae angen prawf adnabod i ddod yn aelod llawn. Gallwch ddod o hyd i’ch llyfrgell agosaf drwy fynd i https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/llyfrgelloedd-ac-archifau/
Neu gallwch gofrestru yn un o’r mannau cofrestru isod:
1 Hydref – Tesco, Caerfyrddin rhwng 2pm a 5pm
6 Hydref – Morrisons, Caerfyrddin rhwng 10am a 2pm
6 Hydref – Tesco, Rhydaman rhwng 10am a 1pm
7 Hydref – Morrisons, Llanelli rhwng 9am a 12pm
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.