Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Cyngor Sir Gâr am gael eich barn am lwybr arfaethedig i gerddwyr a beicwyr o Abergwili i Ffair-fach

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi ei gynigion cyffrous yng nghynllun Llwybr Dyffryn Tywi i greu llwybr rhannu defnydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr rhwng Abergwili a Ffair-fach, Llandeilo. Byddai’r llwybr arfaethedig yn cysylltu cymunedau drwy lwybr diogel, oddi ar y ffordd yn bennaf, a gellid ei ddefnyddio at ddibenion hamdden, mynd i’r gwaith a chyrraedd gwasanaethau lleol.

Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais Cynllunio i gasglu barn pobl am y datblygiad arfaethedig ar ran ddwyreiniol Llwybr Dyffryn Tywi, a fydd yn datblygu llwybr cerdded a beicio newydd rhwng Ffair-fach a Nantgaredig, ynghyd â gwaith peirianneg a thirweddu cysylltiedig.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 28 diwrnod rhwng 3 Hydref a 31 Hydref. Mae ar gael ar-lein ac mae copïau caled ar gael yn Llyfrgell Llandeilo ac Amgueddfa Abergwili.

Gallwch weld copïau digidol o’r cais arfaethedig yma PinPoint ConnectALL – Camarthen (pinpointcloud.co.uk) ac mae copïau caled o’r cais ar gael yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwili, a Llyfrgell Gyhoeddus Llandeilo.

Rhaid i unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ar y datblygiad arfaethedig hwn ysgrifennu at yr asiant, Russell Borthwick, Prif Gynllunydd Tref, WSP yn y DU, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd. CF10 4BZ. E-bost: tvp.pac@wsp.com. Dylai pob gohebiaeth nodi enw’r cynllun: Llwybr Dyffryn Tywi. Gofynnir i chi ymateb erbyn 31/10/2022.

Mae gan y llwybr arfaethedig, sy’n mynd heibio i nifer o safleoedd hanesyddol a mannau o ddiddordeb, fel Tŵr Paxton, Castell Dryslwyn a Chastell Dinefwr, botensial i fod yn atyniad i ymwelwyr. Byddai Llwybr Dyffryn Tywi yn mynd ar hyd rhannau o’r hen reilffordd o Gaerfyrddin i Landeilo ac yn wastad yn bennaf, gydag ychydig o riwiau.

Yn y cynnig mae cynlluniau i godi dwy bont fawr ar hyd y llwybr, dros afonydd Tywi a Chothi, yn ogystal â phont lai arall dros afon Gwynon.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

“Rydym eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer rhan orllewinol Llwybr Dyffryn Tywi, o Abergwili i Nantgaredig, ac rydym bellach am ymgysylltu â phobl a gofyn am eu barn am ran ddwyreiniol y prosiect hwn, sy’n cynnwys Nantgaredig i Ffair-fach.

“Fy neges i’r gymuned leol yw, cofiwch gymryd rhan. Rydym wir eisiau cynnwys eich barn yn ein cynigion, gan y bydd yn ein helpu i wella ein cais cynllunio cyn i ni ei gyflwyno, gan osgoi costau ac oedi diangen drwy sicrhau bod yr holl faterion perthnasol yn cael sylw yn y cam cynharaf.

“Mae cynllun Llwybr Dyffryn Tywi wedi bod yn cael ei ddatblygu ers sawl blwyddyn a dyma’r cam diweddaraf i ddarparu llwybr beicio a cherdded o Gaerfyrddin i Landeilo a fydd yn hwb enfawr i drefi a phentrefi lleol a thwristiaeth ar draws ein sir.”

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page