Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Rhowch eich barn am drefniadau terfyn cyflymder newydd 20mya yng Ngheredigion

Gall trigolion roi eu barn ar drefniadau terfyn cyflymder newydd ar ffyrdd sydd wedi’u nodi fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru yn y sir.

 

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru basio deddfwriaeth ym mis Gorffennaf 2022 fydd yn gweld y terfyn cyflymder ar strydoedd preswyl, adeiledig yn gostwng o 30mya i 20mya ledled Cymru. Bydd hyn yn dod i rym ym mis Medi eleni.

 

Nid oes gan yr un ffordd yng Ngheredigion statws cyfyngedig, felly bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno drwy’r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Mae hyn yn golygu bod angen i ni gynnal ymgynghoriad ffurfiol â’r cyhoedd ar bob terfniant terfyn cyflymder newydd arfaethedig.

 

Ledled Ceredigion, mae 370 o leoliadau wedi cael eu nodi ar gyfer y newid.

 

Mae disgwyl i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya arwain at:

40% yn llai o wrthdrawiadau
achub 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn
osgoi rhwng 1,200 a 2,000 o bobl yn cael eu hanafu bob blwyddyn
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Fel awdurdod lleol, rydym yn falch i’w gefnogi er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd, lleihau difrifoldeb anafiadau ac annog Teithio Llesol a Chynaliadwy. Rydym yn awyddus i glywed gan drigolion ar y cynlluniau 20mya felly rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”

 

Gall trigolion weld yr ymgynghoriad ar-lein yma: www.ceredigion.gov.uk/resident/travel-roads-parking/consultations/orders/. Gellir cael copïau papur o’r ymgynghoriad yn Llyfrgelloedd yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi, Llandysul, Llanbedr Pont Steffan, a Cheinewydd yn ystod oriau agor arferol. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Ebrill 2023.

 

Gallwch anfon unrhyw wrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, i adran Gwasanaethau Technegol Ceredigion ar gwasanaethau.technegol@ceredigion.gov.uk, ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar clic@ceredigion.gov.uk neu’r adran Gwasanaethau Cyfreithiol, d/o Yr Ystafell Bost, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE. Rhaid derbyn gwrthwynebiadau ysgrifenedig erbyn 28 Ebrill 2023.

 

Ar gyfer unrhyw ymholiadau lleol, cysylltwch â gwasanaeth i gwsmeriaid CLIC ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

 

Mae rhagor o wybodaeth am Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ar gael yma: Cyflwyno Terfynau Cyflymder Diofyn 20 mya


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page