Ymwelwyr â’r llyfrgell yn cael mynd ar daith uwch-dechnoleg yn ôl mewn amser

BYDD ymwelwyr â Llyfrgell Ganolog Abertawe’n mwynhau cipolwg rhyfeddol ar orffennol y ddinas yr wythnos hon – gydag arddull uwch-dechnoleg newydd o adrodd straeon.

Fe fydd cyfle i edrych ar straeon o’r ddinas o’r newydd diolch i brosiect sy’n cynnwys realiti rhithwir a realiti estynedig.

Disgwylir i’r profiad StoryTrails y gellir ymgolli ynddo ac sydd am ddim gael ei gynnal yn y Llyfrgell Ganolog ddydd Mercher a dydd Iau.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King:

“StoryTrails yw’r prosiect adrodd straeon y gellir ymgolli ynddynt mwyaf yn y DU. Mae’n wych bod Abertawe’n un o’r 15 o leoliadau ac mae’n wych bod staff y llyfrgell yn cymryd rhan ynddo.”

“Bydd digwyddiad yr wythnos hon yn caniatáu i bobl leol brofi Abertawe mewn ffordd newydd drwy hud RE a RRh. Byddant yn defnyddio technoleg newydd i deithio yn ôl mewn amser a phrofi hanesion cyffrous y ddinas. Mae’n mynd i fod yn ddeuddydd llawn hwyl i bobl leol.”

Mae StoryTrails yn rhan o UNBOXED:  Creativity in the UK, dathliad arloesol o greadigrwydd a gynhelir ledled y DU yn 2022 dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol dros Adrodd Straeon y Gellir Ymgolli Ynddynt: StoryFutures Academy.

Bydd yn dod i’r Llyfrgell Ganolog yn y Ganolfan Ddinesig ddydd Mercher a dydd Iau o 11am tan 7pm, lle bydd pobl leol â doniau creadigol yn helpu i arddangos y straeon.

Meddai’r Athro James Bennett, cyfarwyddwr StoryFutures a StoryTrails:

“Rydym am i bobl deimlo’n gyffrous ynghylch lle maent yn byw drwy eu helpu nhw i gysylltu â straeon am eu trefi a’u dinasoedd o’r gorffennol a’r presennol, a’u gweld nhw drwy lens wahanol.

“Gall technolegau newydd fel RE a RhR helpu i adeiladu ar y cysylltiadau hyn ac adfywio brwdfrydedd pobl am y gorffennol.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page