Rhaglen Arfor 2 gwerth £11 miliwn i hybu ffyniant economaidd mewn cymunedau Cymraeg
MAE Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a’r Aelod Dynodedig, Cefin Campbell wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £11m dros y tair blynedd nesaf yn Arfor 2. Mae Arfor 2 yn rhaglen newydd a fydd yn cael ei…
£20m i wella cyfleusterau anghenion dysgu ychwanegol
MAE Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi £20 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol er mwyn gwella neu greu mannau a chyfleusterau cynhwysol i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Gellir defnyddio’r cyllid, er enghraifft,…
Amser gwneud cais am y rownd diweddaraf o arian i drawsnewid trefi ledled Cymru
MAE Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i wneud cais am ei rownd diweddaraf o gyllid benthyciadau Trawsnewid Trefi. Mae modd defnyddio’r cyllid, sydd werth £5m, i adfywio canol trefi drwy ddod ag adeiladau gwag yn ôl yn fyw. Mae’r cynllun, sydd eisoes wedi dyrannu mwy na £67m ers 2014, yn caniatáu i gynghorau gefnogi prosiectau sy’n helpu cynhyrchu nifer yr ymwelwyr i ganol trefi a helpu i gefnogi busnesau lleol. Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau ac yn dod i ben ar 02 Tachwedd. Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae ein rhaglen trawsnewid trefi yn parhau i sicrhau canlyniadau gwych yn ein hymrwymiad a’n huchelgais i adfywio canol trefi ledled Cymru, gan eu rhoi wrth galon popeth a wnawn. “Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio yng nghanol trefi ar hyd a lled y wlad maes o law.” Mae dau gynllun ym Mlaenau Gwent wedi…
Rheolau treth newydd i helpu prynwyr tai
NI fydd pobl sy’n prynu cartrefi yng Nghymru am lai na £225,000 yn talu unrhyw dreth, o dan fesurau newydd sydd wedi’u cyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid. Mae’r trothwy ar gyfer talu Treth Trafodiadau Tir yn cael ei godi o…
Gweinidog Materion Gwledig yn cyflwyno Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
MEWN datganiad ysfrifenedig mae Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cyflwyno mesur hanesyddol sef Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Dywedodd y Gweinidog: “Mae’r Bil yn sefydlu Rheoli Tir Cynaliadwy fel y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer…
Gwersi Cymraeg am ddim i bobl 18 i 25 mlwydd oed a staff addysgu
MAE pobl ifanc a staff y sector addysg yng Nghymru bellach gael mynediad at wersi Cymraeg am ddim fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’r ymrwymiad yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid…
Plant Cymru i elwa ar fuddsoddiad o £100 miliwn mewn gofal plant
MAE buddsoddiad sylweddol o bron i £100 miliwn yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i wella argaeledd gofal plant, cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ac ariannu llefydd rhan-amser am ddim. Bydd y cyllid yn cynnwys £26 miliwn ar gyfer cam nesaf…
Bil arloesol er mwyn gwahardd plastigion untro yng Nghymru
BYDD cam allweddol yn cael ei gymryd gan Lywodraeth Cymru i leihau’r llif o wastraff plastig sy’n dinistrio bywyd gwyllt a’r amgylchedd yng Nghymru gan y disgwylir i Fil sy’n gwahardd plastigion untro gael ei osod gerbron y Senedd. Mae…
Mwy o blant ledled Cymru dechrau derbyn prydau ysgol am ddim
WRTH i blant fynd yn ôl i’r ysgol, mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi croesawu’r ffaith bod rhoi prydau ysgol am ddim yn mynd i gael ei ehangu i blant cynradd yng Nghymru….
Cyfraddau llog ar fenthyciadau myfyrwyr cael ei gapio am dri mis
MAE Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi fod log a godir ar fenthyciadau myfyrwyr Cymru yn cael ei gapio ar 6.3% am dri mis. Meddai Mr Miles: “Mi wnes i ddatganiad ar 13 Mehefin 2022 i…









